Petition / Deiseb

Protect the people of Wales – Take urgent action on the housing crisis now.

Amddiffynnwch bobl Cymru – cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr.

Local people are being priced out of their own communities. This is destroying our culture and language. Simply building more houses is not enough.

We call for a fundamental rethink of policy to prioritise the social, cultural and economic needs of the people of Wales in line with Cymraeg 2050 and the Well-being of Future Generations Act.

Mae prisiau tai’n gorfodi pobl leol o’u cymunedau eu hunain. Mae hyn yn dinistrio ein diwylliant a’n hiaith. Nid yw adeiladu mwy o dai’n ddigon.

Rydym yn galw am ailfeddwl polisi sylfaenol i flaenoriaethu anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl Cymru yn unol â’r cynllun gweithredu Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rhowch lais i bobl ar ddatrys ein hargyfwng tai: gweithredu wyth gofyniad y Siarter Cyfiawnder Cartrefi a sefydlu Cynulliad Dinasyddion i sbarduno newid.

Covid has shown the need for decisive Welsh Government action to deal with a major crisis. Urgent action is needed now to address our housing crisis, before local cultures and language are lost and an out of control housing market destroys urban and rural Welsh communities.

The Housing Justice Charter group is a non-party political collaboration from across Wales. We researched all the issues and solutions proposed by others and summed them up in eight achievable and positive areas for action.

Implement the Charter’s demands; use a Citizens Assembly to drive the change:

1. Declare a housing emergency in Wales
2 Create a bill to address housing inequality.
3. Protect our communities; rural and urban.
4. Protect Welsh Language and culture.
5. Reform social housing provision.
6 Urgently address the pressing issue of second home ownership.
7. Reform planning laws to respond to local housing needs.
8. Create a citizens assembly on housing.

UPDATE

A huge thank you to the 6,469 who signed the petition which closed on the 4th of December 2021.

The petition was discussed in the Senedd.

The Committee acknowledged the serious concerns raised by the petition regarding affordable housing and the negative impact on local communities across Wales. Given the complex nature of these concerns, the Committee welcomed the fact that the Local Government and Housing Committee are undertaking a detailed inquiry in this area and agreed to write to the Chair of the Committee to ask them to include the issues raised in this petition as part of their inquiry.

For more information please follow the link below;

https://petitions.senedd.wales/petitions/244842

Mae Covid-19 wedi dangos yr angen am gamau gweithredu pendant gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng mawr. Mae angen gweithredu ar frys nawr i fynd i’r afael â’n hargyfwng tai, cyn i ddiwylliannau lleol a’r Gymraeg gael eu colli a chyn i farchnad dai ddireolaeth ddinistrio cymunedau trefol a gwledig Cymru.

Mae’r grŵp Siarter Cyfiawnder Cartrefi yn gydweithrediad gwleidyddol di-blaid ar draws Cymru. Gwnaethom ymchwilio i’r holl faterion a’r atebion a gynigiwyd gan eraill a’u crynhoi mewn wyth maes cyflawnadwy a chadarnhaol ar gyfer gweithredu.

Gweithredu gofynion y Siarter; defnyddio Cynulliad Dinasyddion i sbarduno’r newid:
1. Datgan argyfwng tai yng Nghymru
2. Creu bil i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb tai.
3. Amddiffyn ein cymunedau; rhai gwledig a threfol.
4. Amddiffyn y Gymraeg a diwylliant Cymru.
5. Diwygio darpariaeth tai cymdeithasol.
6. Mynd i’r afael â’r mater dybryd perchnogaeth ail gartrefi ar frys.
7. Diwygio cyfreithiau cynllunio i ymateb i anghenion tai lleol.
8. Creu Cynulliad Dinasyddion ar dai.

Y DIWEDDARAF

Diolch enfawr i’r 6,469 a lofnododd y ddeiseb a ddaeth i ben ar y 4ydd o Ragfyr 2021.

Trafodwyd y ddeiseb yn y Senedd.

Cydnabu’r Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb hon fel rhan o’i ymchwiliad.

Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen isod;

Amddiffynnwch bobl Cymru – cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr – Deisebau (senedd.cymru)

#argyfwngtai #hawlifywadra #nidywgymruarwerth

%d bloggers like this: